2 Kings 19

Heseceia'n gofyn am help Duw

(Eseia 37:1-13)

1Pan glywodd y brenin Heseceia hyn, dyma fe'n rhwygo ei ddillad, gwisgo sachliain a mynd i deml yr Arglwydd. 2A dyma fe'n anfon Eliacim, arolygwr y palas, Shefna, yr ysgrifennydd, a rhai o'r offeiriaid hynaf at y proffwyd Eseia fab Amos. Roedden nhw hefyd yn gwisgo sachliain. 3A dyma nhw'n dweud wrtho, “Dyma mae Heseceia'n ddweud: ‘Mae hi'n ddiwrnod o argyfwng, o gerydd ac o gywilydd, fel petai plant ar fin cael eu geni a'r fam heb ddigon o nerth i'w geni nhw. 4Petaet ti'n gweddïo dros y rhai ohonon ni sy'n dal ar ôl yn y ddinas, falle y byddai'r Arglwydd dy Dduw yn cymryd sylw o beth ddwedodd y swyddog gafodd ei anfon gan frenin Asyria i enllibio'r Duw byw, ac yn ei gosbi.’”

5Pan aeth gweision y brenin Heseceia at Eseia, 6dyma Eseia'n dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth eich meistr: ‘Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: “Paid gadael i'r ffaith fod gweision bach brenin Asyria yn gwneud sbort ar fy mhen i dy ddychryn di. 7Dw i'n mynd i godi ofn arno fe.

Bydd e'n clywed si am rywbeth
ac yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun.
Bydda i'n gwneud iddo gael ei ladd
gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.”’”

8Yn y cyfamser roedd prif swyddog brenin Asyria wedi mynd yn ôl a darganfod fod ei feistr wedi gadael Lachish a'i fod yn ymladd yn erbyn tref Libna. 9Roedd wedi clywed fod y brenin Tirhaca (oedd o dras Affricanaidd
19:9 y brenin Tirhaca (oedd o dras Affricanaidd) Roedd Tirhaca yn frenin ar yr Aifft o tua 690 i 664 CC
) ar ei ffordd i ymosod arno. Felly, dyma fe'n anfon negeswyr at Heseceia eto:
10“Dwedwch wrth Heseceia, brenin Jwda: ‘Peidiwch gadael i'r Duw dych chi'n ei drystio eich twyllo chi i feddwl na fydd Jerwsalem yn syrthio i ddwylo brenin Asyria. 11Dych chi'n gwybod yn iawn fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r gwledydd eraill i gyd. Ydych chi'n mynd i ddianc? 12Gafodd y gwledydd ddinistriodd fy rhagflaenwyr eu hachub gan eu duwiau? – beth am Gosan, Haran, Retseff, a pobl Eden oedd yn Telassar? 13Ble mae brenin Chamath? Neu frenin Arpad? Neu frenhinoedd Lahir, Seffarfaîm, Hena, ac Ifa?’”

Heseceia'n gweddïo

(Eseia 37:14-20)

14Ar ôl i Heseceia gymryd y llythyr gan y negeswyr, a'i ddarllen, aeth i'r deml a'i osod allan o flaen yr Arglwydd. 15Yna dyma Heseceia'n gweddïo:

“O Arglwydd, Duw Israel, sy'n eistedd ar dy orsedd uwchben y ceriwbiaid. Ti sydd Dduw, yr unig un, dros deyrnasoedd y byd i gyd. Ti wnaeth greu y bydysawd a'r ddaear. b
16O Arglwydd, plîs gwrando! Agor dy lygaid Arglwydd! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy'n enllibio'r Duw byw!
17Arglwydd, mae'n wir fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r bobloedd i gyd, a'u tiroedd, 18ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi eu cerfio gan bobl, i'w haddoli.
19Felly nawr, O Arglwydd ein Duw, plîs achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r Arglwydd, yr unig Dduw go iawn.”

Ateb Duw i Heseceia

(Eseia 37:21-35)

20Dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia:

“Dyma mae'r Arglwydd, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i wedi clywed dy weddi di am Senacherib, brenin Asyria,
21a dyma dw i, yr Arglwydd, yn ei ddweud yn ei erbyn:

Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di!
Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben di!
Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phen
tu ôl i dy gefn di.
22Pwy wyt ti'n ei enllibio a'i wawdio?
Yn erbyn pwy wyt ti'n codi dy lais,
ac yn troi dy lygaid yn sarhaus?
Yn erbyn Un Sanctaidd Israel!
23Rwyt ti wedi defnyddio dy negeswyr
i enllibio'r Meistr, a dweud,
‘Gyda'r holl gerbydau rhyfel sydd gen i
dringais i ben y mynyddoedd uchaf,
ac i ben draw Libanus.
Torrais i lawr y coed cedrwydd talaf,
a'r coed pinwydd gorau,
er mwyn cyrraedd copa uchaf
y llechweddau coediog.
24Dw i wedi cloddio ffynhonnau
ac yfed dŵr mewn lleoedd estron.
Sychais holl ganghennau'r Afon Nil
hefo gwadn fy nhraed.’
25Mae'n rhaid dy fod wedi clywed!
Fi sydd wedi trefnu'r cwbl ers talwm –
mae'r cwbl wedi ei gynllunio ers amser maith,
a nawr dw i'n troi'r cwbl yn ffaith:
i ti droi caerau yn bentyrrau o rwbel.
26Does gan y bobl sy'n byw ynddyn nhw ddim nerth,
maen nhw'n ddigalon, ac wedi eu cywilyddio.
Maen nhw fel planhigion mewn cae,
neu dyfiant ar ben to
wedi ei grino gan wynt y dwyrain.
27Dw i'n gwybod popeth amdanat ti
– dy symudiadau di i gyd,
a sut rwyt ti wedi bod yn strancio yn fy erbyn i.
28Am dy fod ti wedi strancio yn fy erbyn i,
a minnau wedi gorfod gwrando ar dy eiriau haerllug,
dw i'n mynd i roi bachyn trwy dy drwyn di
a ffrwyn yn dy geg di;
a gwneud i ti fynd yn ôl y ffordd daethost ti.”

29“A dyma fydd yr arwydd i ti, Heseceia, fod hyn yn wir:

Byddi'n bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun eleni,
a'r flwyddyn nesa beth fydd wedi tyfu o hwnnw.
Ond y flwyddyn wedyn cewch hau a medi,
plannu gwinllannoedd a bwyta eu ffrwyth nhw.
30Bydd y bobl yn Jwda sydd wedi dianc a'u gadael ar ôl
yn bwrw eu gwreiddiau eto, ac yn dwyn ffrwyth.
31Bydd y rhai sy'n weddill yn lledu allan o Jerwsalem;
y rhai o Fynydd Seion wnaeth ddianc.
Mae'r Arglwydd holl-bwerus yn benderfynol
o wneud hyn i gyd.

32Felly, dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud am frenin Asyria:

‘Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma.
Fydd e ddim yn saethu saeth i mewn iddi;
fydd e ddim yn ymosod arni hefo tarian,
nac yn codi rampiau i warchae yn ei herbyn.
33Bydd e'n mynd yn ôl y ffordd daeth e.
Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma’

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
34‘Dw i'n mynd i amddiffyn ac achub y ddinas yma,
er mwyn cadw fy enw da,
ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’”

Sennacherib, brenin Asyria, yn marw

(Eseia 37:36-38)

35A'r noson honno dyma angel yr Arglwydd yn mynd allan ac yn taro cant wyth deg pum mil o filwyr Asyria. Erbyn y bore wedyn roedden nhw i gyd yn gyrff meirw.

36Felly dyma Senacherib, brenin Asyria, yn codi ei wersyll, mynd yn ôl i Ninefe ac aros yno. 37Pan oedd e'n addoli yn nheml ei dduw Nisroch, dyma ei feibion, Adram-melech a Saretser, yn ei ladd gyda'r cleddyf ac yna'n dianc i ardal Ararat
19:37 Ararat yn Armenia ein dyddiau ni.
. A dyma fab arall iddo, Esar-chadon,
19:37 Esar-chadon Roedd yn teyrnasu ar Asyria o 681 i 669 CC
yn dod yn frenin yn ei le.

Copyright information for CYM